LONDON, Oct. 10 -- The government of the United Kingdom issued the following news:

Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi cynnal ei gynhadledd 'Gwella Diogelu yng Nghymru - Datblygu a chynnal dull cydweithredol' yng Nghaerdydd.

Gan gyflwyno cyfleoedd rhwydweithio i weithwyr proffesiynol diogelu gwahoddedig, mae'r gynhadledd wedi ceisio datblygu a chryfhau cynghreiriau strategol ar draws y dirwedd ddiogelu yng Nghymru i hyrwyddo amcanion diogelu a rennir.

Un thema fynych a drafodwyd yn ystod sesiynau gonest oedd - sut y gall sefydliadau weithio gyda DBS i sicrhau bod atgyfeiriadau o safon yn cael eu gwneud ar yr adeg iawn, gan sicrhau bod y rhai sy'n peri risg i'r rhai sy'n agored i niwed yn cael eu gwahardd rhag gweithio mewn gweithgareddau rheoledig mewn modd amserol.

Mae DBS, corff hyd braich y Swyddfa Gartref, yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel bob blwyddyn trwy brosesu a chyhoeddi gwiriadau DBS ar gyfer Cymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal y Rhestrau Gwahardd i Oedolion a Phlant, gan benderfynu a ddylid gwahardd unigolion rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau rheoledig gyda grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant.

Dywedodd Jeff James, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: "Mae DBS yn awyddus i arddangos ei ymrwymiad parhaus i ddiogelu yn y rhanbarth, hyrwyddo negeseuon allweddol ynghylch diogelu'r rhai sydd mewn perygl o niwed, cydweithio a phartneriaid a rhanddeiliaid a chodi proffil cymorth allgymorth rhanbarthol DBS sydd ar gael i sefydliadau ledled Cymru."

Fel rhan o ymrwymiad parhaus DBS, mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a sefydliadau lleol i sicrhau bod yr arfer gorau diogelu diweddaraf yn cael ei rannu a'i weithredu.

Gellir dod o hyd i arweiniad a chymorth pellach a ddarperir gan WasanaethAllgymorth Rhanbarthol DBS, sy'n cwmpasu Cymru, yma: The DBS Regional Outreach service - GOV.UK

Disclaimer: Curated by HT Syndication.